Copy
Cyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy - 
Cipolwg â'r Cyfeillion Rhif.12 Mai 2019
View this email in your browser

Annwyl Gyfeillion

Croeso i rifyn y Gwanwyn o gylchlythyr y Cyfeillion. Gyda’r tywydd braf a gawsom dros y Pasg, rwy’n siŵr y bu llawer ohonom yn mwynhau'r gorau sydd gan yr AHNE i'w gynnig – ac mae yna rywbeth i blesio pawb dros y misoedd nesaf yn rhaglen newydd “O Gwmpas”.  Yn y rhifyn hwn rydym yn tynnu sylw at brosiect “Ein Tirwedd Ddarluniadwy” sydd bellach yn ennill ei dir yn Nyffryn Dyfrdwy. 

Rhaid estyn diolch i’n cyfranwyr ffyddlon, Mike Skuse a Neville Howell, yn ogystal â David Smith wrth gwrs, am roi i ni stori arall sy’n ysgogi’r meddwl am yr etifeddiaeth a adawodd yr Ail Ryfel Byd i’r ardal. Diolch hefyd i Barbara Milne am hanes gweilch Llyn Brenig, - stori gadwraeth bwysig yn hanu o ardal sy’n ddigon agos i'r AHNE i fod yn berthnasol iawn.

Rhaid crybwyll un neu ddau beth ychwanegol: yn gyntaf, bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyfeillion eleni yng Nghanolfan Gwaith y Dyffryn, Rhydymwyn ar 14 Awst. Bydd yna daith ddywysedig hefyd, felly nodwch y dyddiad yn eich dyddlyfr. 

Yn ail, mae pawb ohonom yn gwerthfawrogi’r gyfres gynhwysfawr o ddigwyddiadau y mae Neville yn eu darparu i ni - ond mae angen help arno fo. Cysylltwch â ni os hoffech wneud eich rhan. 

Yn olaf, rydym wastad yn chwilio am gyfranwyr newydd i’r cylchlythyr. Peidiwch â bod yn swil! Cysylltwch â mi ar john@johnandviv.plus.com

 Ein Tirlun Ddarluniadwy

Yn y rhifyn hwn o’n cylchlythyr, rydym yn canolbwyntio ar y prosiect “Ein Tirlun Ddarluniadwy” (ETDd). Rydym wedi sôn amdano’n barod, ond, gan ein bod wedi apwyntio tîm y prosiect erbyn hyn ac wedi lansio’r fenter yn swyddogol ym Mhlas Newydd y diwrnod o’r blaen, mae hyn yn amser da i ofyn i Reolwr y Prosiect, Kate Thomson ddweud popeth amdano wrthym.  Mae Kate hefyd yn ein heitem “Cyfarfod â’r Tîm”, a gyda gwaith eisoes ar y gweill a llwyddiant eisoes wedi'i gyflawni gydag adfer Llwybr y Clincer yn Nhrefor, rydym unwaith eto’n cyhoeddi erthygl gan Peter Brown sy'n dweud popeth wrthym am yr hanes. 

Dyma beth sydd gan Kate i’w ddweud -

“Prosiect pum mlynedd a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yw Ein Tirwedd Ddarluniadwy. Mae’n canolbwyntio ar dirwedd Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte. 

Ei thema yw teithiau ysbrydoledig sydd wedi bod, ac sy’n parhau i fod, yn nodwedd o’r ardal hon, - ardal sydd yn cael ei hollti gan y gamlas, A5 Telford a’r Afon Ddyfrdwy. Mae’r dyffryn prydferth hwn yn ysbrydoli ymwelwyr i greu celf a barddoniaeth ers y 18fed ganrif, ac mae’n dal i ddenu twristiaid sy’n chwilio am rywbeth ‘dyrchafedig’ hyd heddiw.

Mae'r dirwedd hon o dan bwysau cynyddol oherwydd y niferoedd mawr o dwristiaid sy’n cael eu denu gan amlaf at ein safleoedd mwyaf bregus. Nid yw’r cymunedau sydd ar ei chyrion, - y rhai a grëwyd o’r ymdrechion diwydiannol a’i lluniodd – yn poeni cymaint erbyn hyn am y manteision a gynigir gan y dirwedd. Bydd y prosiect pum mlynedd yma’n buddsoddi mewn gwytnwch safleoedd sy’n allweddol i ymwelwyr ac yn galw ar y cymunedau i werthfawrogi a rheoli'r dirwedd, tra’n ail-ddehongli ei chyfoeth ar gyfer cenhedlaeth newydd.

Mae Prosiect £2 filiwn Ein Tirwedd Ddarluniadwy wedi ei ariannu'n bennaf gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae’n brosiect a ddatblygwyd ar y cyd gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Safle Treftadaeth y Byd Traphont a Chamlas Pontcysyllte, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir Amwythig, Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cadw, Cadwyn Clwyd, Aqueducks (Cyfeillion y Safle Treftadaeth y Byd) a Chyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Mae'r tîm prosiect yn cynnwys fi fy hun fel Swyddog Partneriaeth, Sallyanne Hall fel Swyddog Cymunedol ac Ymgysylltu, a Ffion Roberts, Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Gweinyddol. Rydym i gyd wedi’n lleoli yn Y Caban ym Mhlas Newydd, Llangollen. 

Datblygwyd prosiectau cyfrannu unigol o dan 3 thema- Gwarchod y Dirwedd Ddarluniadwy, Mynediad i'r Dirwedd Ddarluniadwy a Phobl a'r Darluniadwy.

Gwarchod y Dirwedd Ddarluniadwy –

Nod y Prosiect yw adfer a chadw golygfeydd allweddol wrth edrych oddi wrth ac oddi mewn i Safle Treftadaeth y Byd, gan gynnwys golygfeydd o Bontcysyllte, Y Waun a Llantysilio. Yn ogystal, bydd y prosiect yn chwilio am atebion arloesol er mwyn ceisio lleihau problemau tagfeydd, mynediad ac erydiad, yn caniatáu mynediad i’r cyhoedd i ardaloedd sydd ar gau iddynt ar hyn o bryd, ac yn creu parc bychan yn y Wenffrwd. Bydd rhywogaethau estron goresgynnol yn cael eu rheoli, cysylltiadau cynefin yn cael eu gwella a rhoddir cymorth i dirfeddianwyr i ymgymryd â phrosiectau cadwraeth.

Mynediad i'r Dirwedd Ddarluniadwy 

Cynigir gosod byrddau dehongli newydd ar safleoedd allweddol yn ogystal â chreu sgyrsiau cylchol, a llwybrau wedi’u harwyddo a’u dehongli yn cysylltu safleoedd pyrth allweddol. Rydym wedi creu llwybr cymunedol newydd ar gyfer cymuned Trefor ac rydym yn cynllunio mynediad newydd a gwell i safleoedd treftadaeth.  

Pobl a'r Darluniadwy 

Bydd y prosiect yn datblygu rhaglen o ddigwyddiadau i ddathlu treftadaeth ddiwydiannol a diwylliannol yr ardal ac i annog pobl i archwilio ymhellach i ffwrdd ar hyd y Safle Treftadaeth y Byd a'r dirwedd o'i amgylch. Bydd gweithgaredd gwirfoddol yn cael ei hyrwyddo ar hyd a lled ardal y prosiect, gan gynnwys adfer y Glyn ym Mhlas Newydd.

Llwybr y Clincer

Roedd cymuned Trefor wedi mynegi eu bod eisiau agor llwybr newydd drwy Rhos y Coed er mwyn cysylltu’r Ganolfan Gymunedol a llwybr halio’r Gamlas. Mae’r prosiect wedi darparu cyswllt uniongyrchol ar gyfer y gymuned at y Safle Treftadaeth y Byd drwy hen ardal ddiwydiannol sydd bellach yn goetir. Mae clogfaen clincer mawr yn sefyll yn y goedwig ger y llwybr fel atgof dramatig o'r gorffennol diwydiannol hwn. Mae'r prosiect hefyd wedi clirio o amgylch y clincer a byddwn yn darparu bwrdd dehongli. Gofynnwyd am gael gosod mainc ger y clincer er mwyn i’r bobl oedrannus sy’n byw yn y byngalos gerllaw gael dod i eistedd yna a mwynhau gwylio’r gamlas a’i defnyddwyr yn mynd heibio. 

Bydd Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned Ein Tirwedd Ddarluniadwy yn cydweithio â’r gymuned leol ac yn arbennig y cybiau a'r sgowtiaid er mwyn iddynt ddefnyddio’r coetir a’r llwybr mewn modd cyfrifol.

Rydym yn dymuno pob llwyddiant i Kate a’r tîm gyda’r prosiect cyffrous hwn. Byddwn yn adrodd yn rheolaidd ar gynnydd mewn rhifynnau i ddod.

O Gwmpas 2019

Dyma fo! Ydi, mae ‘O Gwmpas’, llyfryn yr AHNE yn llawn darluniau hyfryd, ar gael yn y siopau arferol. Mae’n llawn o wybodaeth am ddigwyddiadau, gweithgareddau a chyfleoedd gwirfoddoli, ac mae’n rhaid i bob un ohonom sydd â dyfodol yr ardal wych hon yn agos at ei galon ei ddarllen. Fel y dywed y llyfryn, “Mae gennym ddigwyddiadau i bawb ar gyfer pob tymor – gweithgareddau i bob oed a gallu, fydd yn gwneud 2019 yn flwyddyn o ddatgeliadau newydd i chi!”

‘Y CLINCER’ — DIRGELWCH PONTCYSYLLTE


Mae’r llwybr halio sy’n arwain o’r gyffordd wrth Draphont Ddŵr Pontcysyllte yn croesi Llinell leol Llangollen wrth Bont Postles. Os dilynwch y llwybr yn syth ymlaen yn hytrach na chroesi’r bont, fe welwch ar y dde ymhen ychydig ddarn enfawr o slag haearn sy'n pwyso o leiaf ddeg tunnell. Hwn ydi’r ‘Clincer’. O ble daeth o? A sut? 

Credir fod y tir ar ochr ddeheuol y gamlas rhwng Pont Postles a’r gyffordd, lle saif tai Bron y Gamlas heddiw, wedi ei ddefnyddio i baratoi’r gwaith cerrig ar gyfer y draphont. Ym 1816, rhoddodd cwmni’r gamlas ganiatâd i Exuperius Pickering (y mab) i adeiladu ffyrnau golosg yma. Ac ym 1823, cafodd ganiatâd i adeiladu ffwrnais chwyth (i gynhyrchu haearn bwrw) ac adeiladau cysylltiedig. 

Bu farw Exuperius Pickering ym 1835.  Mae map degwm 1838 yn dangos safle’r ffyrnau golosg pan oeddynt yn nwylo ei ysgutorion, a gwaith haearn (a bwthyn) yn nwylo William Fox. Yn ddiweddarach, gelwir y gwaith haearn yn efail - mewn geiriau eraill, roedd yn cynhyrchu haearn gyrru a'i gynhyrchion.  Ym 1870, y tenant oedd y New British Iron Company, oedd a’u prif weithfeydd yn Acrefair, ond ddwy flynedd yn ddiweddarach, rhoddwyd gwerth o £15 ar y gweithdy ac £8 ar sied y peiriannau. O'i gymharu â’r £70 a roddwyd fel pris y bwthyn, mae’n amlwg erbyn y dyddiad hwnnw bod y gweithfeydd haearn wedi dirywio'n ddifrifol, ac o bosibl yn adfeilion. 

Ym 1872 fe brynodd cwmni’r gamlas yr eiddo cyfagos gan Thomas Butterton.  Roedd o hefyd wedi prydlesu’r tir gyferbyn, lle mae’r Clincer bellach yn gorwedd, oddi wrth gwmni’r gamlas, felly mae’n debygol bod y denantiaeth yma hefyd wedi dod i ben. Yn dilyn hyn, rhoddodd cwmni’r gamlas brydles arall am 21 mlynedd (a gafodd ei hymestyn yn fuan i 28 mlynedd) am safle estynedig y gwaith haearn, ac efallai’r tir gyferbyn hefyd. Yn anffodus, nid yw’r cofnodion yn dweud i bwy a wnaethpwyd y brydles. Yna mae’n debyg i'r tenant newydd wneud buddsoddiad sylweddol, ond erbyn 1877 roeddynt mewn trafferthion ariannol.  

Ym 1878 cafodd Gwaith Haearn Cliffe Vale o Stoke brydles y gweithfeydd, ond nid oedd rheidrwydd arnynt i ddechrau gweithio yno nes i’r fasnach haearn adfer digon i wneud hyn  yn broffidiol.  Ym 1880 roedd yr Efail wedi ail-ddechrau gweithio, ond mae’n rhaid bod hyn wedi dod i ben eto erbyn 1883. Y flwyddyn honno, cynigodd Robert Graesser ei brynu er mwyn ei droi’n waith cemegol; gwnaeth gynnig arall ym 1886, er iddo newid ei feddwl yn ddiweddarach ar ôl cael prydles hir ar y safle oedd ganddo’n barod ger Camlas Plas Kynaston. Roedd William Bache, sef tenant yr Efail ar y pryd, wedi hysbysu ei fod am adael; yn ddiweddarach, penderfynodd gario ‘mlaen, ac roedd yn dal yno ym 1914.

Y darn hanfodol o dystiolaeth mapio yw bod argraffiad cyntaf o fap Arolwg Ordnans 6 modfedd a arolygwyd ym 1872/3 (ond na chafodd ei brintio tan 1879) yn dangos yn glir bod cledrau yn rhedeg o’r gweithfeydd haearn ar draws Pont Postles. Rhaid bod hyn er mwyn gallu gwaredu deunydd gwastraff ar y tir gyferbyn.  Mae'r tir y tu ôl i'r gwaith haearn yn goleddu, felly nid oedd lle i waredu deunydd gwastraff yno. Nid yw ail argraffiad y map (ddiwygiwyd ym 1898) yn dangos cyswllt rheilffordd dros y bont. 

Fyddai neb wedi gallu symud y Clincer yno mewn un darn gan ei fod yn llawer rhy drwm.  Mae bron yn sicr bod y deunydd wedi'i adael yno dros nifer o flynyddoedd, o bosibl mewn cyflwr lled-doddedig.  Wrth edrych yn fanwl, gellir gweld haenau o ddeunydd o wahanol ddwyster ynddo.

Felly mae’n debyg mai gwastraff o’r gwaith haearn gyferbyn, wedi ei adael yno yn y 1870au a'r 1880au, yw’r Clincer.

Peter Brown

[Gyda diolch i Dr Peter King am ei gyngor arbenigol am weithfeydd  haearn.]

Y SAITH SEREN

Dydd Mawrth y Pasg, a dyma ni’n gweld y da a’r drwg drannoeth penwythnos gŵyl y banc brysur ar Fryniau Clwyd. Y drwg i ddechrau: ymhlith y niferoedd o bobl fu’n mwynhau pleserau cefn gwlad yn gyfrifol, gwelwyd y lleiafrif hunanol nad oes unrhyw ots ganddynt. Casglwyd mynydd o ‘sbwriel o gwmpas Moel Famau ar ôl y gwyliau. Ond dyma’r da – y gwaith clodwiw a wnaethpwyd gan y saith gwirfoddolwr gwych wnaeth wneud yr holl glirio yma, dan gyfarwyddyd gofalus y Ceidwad AHNE. Mawr ddiolch iddyn nhw a phob un o’r gwirfoddolwyr eraill sy’n gwneud cymaint i amddiffyn yr ardal arbennig hon.

TRYCHINEB GER DYSERTH

Digwyddodd damwain awyren fwyaf difrifol yr AHNE ar ddiwrnod niwlog ym 1943 pan wnaeth Flying Fortress B-17 Boeing wrthdaro â thir sy’n codi ger pentref Cwm, rhwng Dyserth a Rhuallt. Mae'r Adroddiad Damweiniau swyddogol yn cynnwys datganiad tyst gan Mr Evan Jones: "Ar 29 Rhagfyr 1943 tua thri o’r gloch y prynhawn, roeddwn yn cerdded ar hyd Ffordd Brynglas pan glywais awyren yn hedfan yn isel iawn. Ni allwn ei gweld gan fod y niwl mor drwchus ond doedd dim byd o’i le ar sŵn y motor. Clywais glec uchel ac mi es ar draws cae at yr awyren oedd ar dan. Daeth dyn arall ataf a cheisiodd y ddau ohonom helpu, ond roedd yn amhosibl. Yna dywedais ble’r oedd y ddamwain wrth griw chwiloleuadau Prydeinig ac es yn ôl at yr awyren, lle gwelais fod dau gorff wedi eu lluchio allan ohoni."

Ni wnaeth neb o’r 18 dyn oedd ynddi oresgyn. Criw'r awyren oedd pump ohonynt, ac roedd y 13 teithiwr i gyd yn griw awyr, ar wahân i un oedd yn griw daear. Roeddynt ar y ffordd i RAF Woodvale, ger Southport ble’r oedd 8fed Llu Awyr yr UD wedi troi Gwesty'r Palace wrth lan y môr yn ganolfan gorffwys a hamdden. Doedd dim amheuaeth fod angen seibiant ar yr awyrenwyr hyn, gan fod cofnodion yn dangos bod y rhan fwyaf ohonynt wedi hedfan o leiaf hanner eu cyfanswm gweithredol o 25 taith. Roedd o leiaf 6 ohonynt, gan gynnwys y peilot 1st Lieutenant Alden R Witt, wedi bod ar y cyrch anfad ar safle hanfodol oedd yn cynhyrchu pêl-ferynnau yn Schweinfurt, ymhell yn nhir yr Almaen, ar 14 Hydref 1943. Bu un o’r meirw, Lt Alan S Grant, yn chwaraewr pêl fas proffesiynol cyn ymuno â’r llu awyr, a rhagwelwyd dyfodol rhagorol iddo.

Ar y pryd, dim ond digon o danwydd i gyrraedd yr Iseldiroedd oedd gan awyrennau ymladd oedd yn hebrwng, ac o’r herwydd roedd yr awyrennau bomio ar eu pen eu hunain ar ôl hynny. Byrhoedlog iawn fu ffudd yr Americanwyr y byddai tor o ynnau peiriant ar awyrennau bomio olau dydd yn gallu gwrthsefyll awyrennau ymladd y gelyn. Nid oedd y colledion ym 1943 yn gynaliadwy: yn ystod y cyrch ar Schweinfurt, collwyd 60 B-17 gyda bron i 600 o griw awyr. Dim ond 65 o’r rhain wnaeth oresgyn fel carcharorion rhyfel. 

Ni lwyddwyd i ddarparu awyrennau ymladd i hebrwng yr holl ffordd i berfeddion yr Almaen tan fisoedd y gaeaf 1943-44, pan ddechreuwyd defnyddio’r P-51 Mustang gyda pheiriant Rolls Royce Merlin wedi ei adeiladu gan Packard. Mae llun Lieutenant Alden R Witt a’i griw yn dangos y straen ar wynebau’r dynion nad oeddynt lawer dros ugain oed. Ar ôl byw trwy bethau mor ddifrifol, mae’n fwy trychinebus fyth iddynt farw mewn damwain syml.

The AONB's worst aircraft accident occurred on a foggy day in 1943 when a Boeing B-17 Flying Fortress flew into rising ground near Cwm, a village between Dyserth and Rhuallt. The official Accident Report includes a witness statement by a Mr Evan Jones: "On 29th December 1943 at about three o'clock in the afternoon, I was walking on Brynglas Road and heard an airplane flying very low. The fog was so thick I couldn't see it but the engines sounded all right. I heard a loud report and went across a field to the plane which was on fire. Here I was joined by another man and the two of us tried to render assistance but it was impossible to do anything. Then I reported the position of the crash to a British searchlight crew and went back to the plane, where I found two bodies which had been thrown clear."

There were no survivors from the 18 men on board, five of whom were the aircraft's crew. The 13 passengers were all aircrew, apart from one ground crewman. Their destination was RAF Woodvale, near Southport where the US 8th Air Force had taken over the Palace Hotel on the seafront as a rest and recreation centre. These airmen certainly needed some respite, as records show that most had flown at least half their operational tour of 25 missions. At least six of them, including the pilot 1st Lieutenant Alden R Witt, had taken part in the notorious Schweinfurt raid to a vital ball bearing works deep in Germany on 14th October 1943. One of the victims, Lt Alan S Grant, had been a professional baseball player in civilian life and an outstanding career had been predicted for him.

At that time, escort fighters only had the range to get to Holland, so beyond that the bomber force was on its own. The American belief that the massed machine guns of a daylight bomber formation could repel enemy fighters was soon dispelled. The losses during 1943 were unsustainable, culminating in 60 B-17s on the Schweinfurt raid with almost 600 aircrew missing in action, only 65 of them surviving to become POWs. 

It was only when the P-51 Mustang with its Packard-built Rolls Royce Merlin entered service during the winter of 1943-44 that fighter escort could be provided deep into Germany. The photo of Lieutenant Alden R Witt and his crew shows the strain in the faces of men who were not much over 20 years of age. All the more tragic that having lived through such ordeals they died in a simple accident.

B-17 Flying Fortresses yn dangos y metel plaen fel yn y dyddiau diweddaraf. Byddai arwynebau awyren Cwm wedi eu cuddliwio mewn melynwyrdd dwl uwchben a llwyd niwtral oddi tano.  

Y 1st Lieutenant Alden R Witt o Decsas, Medal Awyr gyda dau Glwstwr Dail y Dderwen, sydd wedi ei gladdu erbyn hyn yn y Fynwent Americanaidd ger Caergrawnt.   

Medd yr Ymchwilwyr i’r ddamwain: "Cred yr Ymchwilwyr fod y llywiwr yn amlwg wedi meddwl eu bod wedi croesi’r arfordir a bod angen dechrau disgyn dros yr hyn oedd yn tybio oedd y môr." Y llwybr arfaethedig oedd Safle cychwyn - Whitchurch- Rhyl - Woodvale, ond yn anffodus, oherwydd camgymeriad wrth hedfan mewn cwmwl, a achoswyd efallai gan wyntoedd blaen cryfach nag a ragwelwyd, roedd y canlyniad yn drychinebus.

Rhif cyfresol y B-17 oedd 42-5791, ac roedd yn dod o’r 95th Bomb Group yn Horham, Suffolk. Llysenw’r awyren oedd "Ruthless", ac mae’n debygol iawn y byddai llun o ferch ifanc heb lawer o ddillad amdani ar ei hochr hefyd, yn ôl yr arfer yn y dyddiau hynny pan nad oedd pawb yn wleidyddol gywir! Dengys cofnodion na fu’r awyren hon ar gyrch Schweinfurt, ond fe wnaeth oroesi cyrchoedd i nifer o dargedau eraill a amddiffynnwyd yn drwm.

Erbyn heddiw, nid oes unrhyw argoel o’r ddamwain, - dim ond porfa dawel i ddefaid wrth lwybr Clawdd Offa – felly mae'n rhaid bod adfer pridd sylweddol wedi bod ar ôl y rhyfel i ddileu'r graith. Byddai codi cofeb i’r dynion dewr yma’n ddymunol iawn, ond ni fyddai’n hawdd ei lleoli. Yr anhawster mwyaf fyddai mynd yno gan fod y ffyrdd yn gul gyda phrinder mannau pasio, felly ni fyddai’n beth doeth annog traffig ychwanegol.  

David Smith

Y 'Witt Crew'. Bu farw 4 ohonynt (Witt, Spitzer, Verbulecz a Baughman) yn y ddamwain. 

TAITH YN NHREFN YR WYDDOR GAN YR AHNE - IONAWR 2019 

Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn fwy adnabyddus fel yr acronym AHNE. Roedd yn hynod briodol felly inni gael taith wych o'r ardal, heb adael cysur gaeafol ystafell gyfarfodydd Loggerheads, yn dilyn thema llythrennau’r wyddor. A’r diolch i gyd i Neville Howell a’i gasgliad cynhwysfawr o ffotograffau. Ychwanegodd Nev ychydig bach o ddilysrwydd drwy ddefnyddio’r wyddor Gymraeg – yn cynnwys treigliad neu ddau tra oedd o wrthi – a’r canlyniad fu prynhawn difyr iawn wnaeth liniaru ‘chydig ar ddiflastod dyddiau tywyll mis Ionawr. 

Cynhesodd Nev o fewn dim. Roedd ei luniau’n dangos rhinweddau holl nodweddion daearyddol a daearegol mwyaf adnabyddus yr AHNE, yn ogystal a llawer nad oeddem mor gyfarwydd a hwy. A gorau oll o’u darganfod. Roedd ei sylwebaeth a'i ddarluniau - yn ogystal â’i hanesion doniol - hefyd yn cynnwys elfennau hanesyddol, diwylliannol a chymunedol, a chyflwynodd farn gynhwysfawr i bawb oedd yn bresennol – boed breswylydd neu ymwelydd - ar bopeth sydd gan ein hardal i’w gynnig. 

Roedd gan eich gohebydd ddiddordeb arbennig mewn llun a dynnwyd o ben Moel Garegog, - golygfan wych sydd ger Llandegla, ond rhaid brwydro’n galed drwy redyn a mieri heb unrhyw lwybr i gyrraedd y copa.  Mae Nev yn fy sicrhau mai ei waith ef ei hun oedd o!! Llawer o ddiolch am ddigwyddiad gwych.

CYFARFOD Â'R TÎM 10 - KATE THOMSON

Mae prosiect “Ein Tirwedd Ddarluniadwy” yn ei anterth ar hyn o bryd yn Nyffryn Dyfrdwy. A dyma gyfle gwych felly i ni gael dod i adnabod Kate Thomson yn well, gan mai Kate sydd wedi ei phenodi i arwain Tîm y Prosiect. 

Pan wnes i gyfarfod â Kate yng Nghanolfan Gymunedol Trefor, aeth yn syth,  gyda’r egni a’r brwdfrydedd y mae hi eisoes yn eu cyflwyno i’r Prosiect, i ddangos i mi’r gwaith sydd wedi ei wneud i greu llwybr y “Clincer”. Mae’r llwybr yn cysylltu’r ystâd dai fawr yn Nhrefor gyda’r gamlas, a chewch ddarllen mwy am hyn mewn erthygl arall. Mae Kate yn byw yn Fron gyda’i gŵr Alasdair a’i thri mab sydd wedi gwirioni ar griced, - Jamie (13), Harry (10) a Charlie (7). O’r herwydd, i ategu ei harbenigedd a'i hymrwymiad proffesiynol, mae ganddi gysylltiad lleol cryf â'r prosiect. Dyma sut atebodd hi fy nghwestiynau:-

Dywedwch ychydig wrthyf am eich bywyd cynnar. 

Wel, roeddwn i’n byw yn Sir y Fflint nes i mi fod yn bedair oed pan wnaethom ni symud fel teulu i fyw yn Hampshire, lle cafodd Mam ei geni. Mi wnaethom symud yn ôl i’r Wyddgrug pan oeddwn i’n bedair ar ddeg oed, ac mi es i Ysgol Alun ac yna i Goleg Glannau Dyfrdwy, lle dechreuais gael diddordeb brwd yn y gyfraith.

Eich uchelgais oedd gyrfa yn y gyfraith?

Ia, mi es i Brifysgol Keele a chefais radd yn y gyfraith a throseddeg, cyn mynd ymlaen i Goleg y Gyfraith i gwblhau fy nghymwysterau proffesiynol ar gyfer be dybiwn fyddai galwedigaeth yn ymwneud â’r gyfraith. 

Fe fu yna newid ar fyd felly?

Do, roeddwn i’n teimlo nad oedd rhywbeth yn iawn i mi rywsut, er fy mod i’n gwneud cynnydd da iawn. Roeddwn wastad wedi bod yn angerddol am yr amgylchedd a chadwraeth, ac roeddwn yn cael fy nhynnu i’r cyfeiriad yna fwyfwy pob dydd. Penderfynais ddilyn trywydd arall, ac yn ffodus, cefais waith fel Ceidwad. Bûm yn gweithio yn Sir Ddinbych yn ogystal â Sir Conwy, yn ymwneud â phrosiect Llwybr Hiraethog cyn cael swydd dymhorol fel ceidwad ym Mharc Wepre ac yna swydd barhaol fel ceidwad yn Wrecsam. Fe sylweddolais yn fuan iawn mod i wedi gwneud y dewis cywir.

Beth ddigwyddodd nesaf?

Cefais swydd barhaol gyda’r Comisiwn Coedwigaeth fel y’i gelwid ar y pryd, - lle'r oeddwn yn ymwneud yn bennaf â rhedeg rhaglenni addysg amgylcheddol. Mi wnes i fwynhau'r rôl yn fawr. A gan fy mod yn magu teulu bach ar y pryd, roedd hyn yn berthnasol iawn ac yn ffocws cryf i mi. Mae wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn.

Unrhyw uchelbwyntiau?

Roeddwn wrth fy modd yn arwain fy mhrosiect diweddaraf , “Plannu”! Bellach dan ofal Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’r prosiect yma gan Lywodraeth Cymru’n plannu coeden dail llydan ar gyfer pob plentyn sy’n cael ei eni neu’i fabwysiadu yng Nghymru. Gan ddechrau yn 2008, erbyn hyn mae dros 390,000 o goed wedi’u plannu ac ardaloedd newydd o goetir wedi’u creu ar hyd a lled Cymru. Byddai rhaid cael rhywbeth arbennig iawn i wneud i mi adael y prosiect yna, ond roedd ‘Ein Tirwedd Ddarluniadwy’, wedi ei leoli o fewn ac o gwmpas fy nghymuned sef Dyffryn hyfryd Dyfrdwy, yn rhywbeth oeddwn i am ei wneud!

Sut mae pethau erbyn hyn? – rydym wedi gofyn i chi am ddiweddariad ar gyfer y rhifyn hwn!

Do, mae gen i lawer o bethau positif i’w hadrodd. Rwyf wedi cael cefnogaeth wych gan dîm AHNE, ac rydym wedi dechrau’n deg gyda phethau fel Llwybr y Clincer. Mae’n hanfodol ymgysylltu â’r cymunedau lleol, a gyda Sallyanne a Ffion wedi’u hapwyntio erbyn hyn, rwyf o’r farn fod gennym dîm all wneud argraff go iawn.

Beth am y Safle Treftadaeth y Byd?

Mae’r tîm yno wedi bod yn gefnogol iawn hefyd a bydd ein partneriaeth gyda hwy’n elfen allweddol yn ein llwyddiant yn y dyfodol.   

Roedd hi'n bryd gadael i Kate fwrw ‘mlaen â'r nifer o bethau yr oedd yn rhaid iddi eu gwneud cyn gwyliau’r Pasg, ond roedd dau gwestiwn arall ar ôl i’w gofyn.

Pan fydd amser yn caniatáu, sut fyddwch chi’n ymlacio?

Wel, mae’n hwyl cefnogi'r bechgyn yn eu gweithgareddau niferus ac mae’n siŵr y byddaf yn gwylio criced reit aml dros y misoedd nesaf! Rwy’n mwynhau rhedeg hefyd, rwy'n aelod gweithgar o Glwb Rhedeg Merched Llangollen, ac rwy’n hoff iawn o fy ngardd. Fel teulu rydym hefyd wrth ein bodd yn treulio amser ar arfordir gorllewinol yr Alban – rydym am fynd i Lochinver nesaf, am yr hyn a ddylai fod yn ychydig ddyddiau hudol.

Ac yn olaf, a dyma fy nghwestiwn arferol i, beth yw eich hoff fan yn yr AHNE?   

Rhaid i hyn fod yn Eglwyseg a'r olygfa hyfryd ohoni o Ddyffryn Dyfrdwy. 

Mae yna lawer o sôn am brosiect ETDd yn y rhifyn hwn. Pob llwyddiant i Kate a’r tîm yn ystod y bum mlynedd nesaf. Gellwch edrych ymlaen am ddiweddariadau cyson. 

ÔL-NODYN 

Fe aeth Kate a minnau draw i Ystafell De Capel Pontcysyllte am baned hyfryd o goffi ar ôl bod am dro ar hyd Llwybr y Clincer.  Mae’r capel, neu Bryn Seion fel y’i gelwid o’r blaen, wedi ei leoli oddi ar fasn y gamlas ar ochr Trefor o'r draphont ddŵr, ac mae wedi ei adfer yn gariadlon gan gadw'r pulpud gwreiddiol fel canolbwynt. Mae’n werth ymweld ag o, - mae’n gaffaeliad i'r Safle Treftadaeth y Byd a'r AHNE.

 

DARGANFYDDWCH AWYR DYWYLL YN 2019

Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn falch o gyhoeddi rhaglen gyffrous i godi ymwybyddiaeth am ein Prosiect Awyr Dywyll. 

Rydym wedi ymuno ag arbenigwyr seryddol Techniquest er mwyn cyflwyno pecyn amrywiol – o sioeau planetariwm a sgyrsiau laser i grefftau arallfydol fel adeiladu teclyn i wylio’r sêr a gweithdai gwneud rocedi. Heb sôn am gyfle i wisgo fel Gofodwr!

Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiadau yma’n codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd awyr y nos i’n hiechyd a’n lles ond hefyd i’r bywyd gwyllt a’r fflora a’r ffawna sy’n dibynnu ar y tywyllwch i oroesi. 

Hoffem hefyd gyflwyno aelod newydd o’n tîm, sef Dani Robertson. Dani yw Swyddog Partneriaeth Awyr Dywyll Gogledd Cymru, ac mae’n gweithio dros AHNE Sir Fôn, Llŷn a Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ogystal ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Bydd yn gwneud y swydd am ddwy flynedd er mwyn helpu i gyflwyno digwyddiadau yn ogystal â chydlynu popeth sy’n gysylltiedig â’n cais i’r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol. Pob lwc, Dani.

AWYR DYWYLL - ETO 

Rwy’n ddigon ffodus i fod yn aelod o sawl gweithgor sy’n cyd-weithio â staff yr AHNE ar agweddau penodol o reolaeth yr ardal warchodedig hon. Yn ddiweddar, cawsom gyflwyniad ar yr ‘Awyr Dywyll’ – ac fe wnaeth hyn fy atgoffa bod rhai o aelodau’r Cyfeillion, mae’n siŵr, yn pendroni tybed beth ddigwyddodd o’n syniad o fynd allan yn ystod y nos gyda theclynnau arbennig i fesur golau er mwyn mesur pa mor dywyll oedd hi.  

Wel, mae’n ddrwg gennyf orfod dweud wrthych na fydd hyn yn digwydd yn y dyfodol agos, yn ôl pob tebyg. Mae’r sefyllfa wedi newid: yn hytrach na phryderu am dywyllwch ein AHNE ni, rydym bellach yn rhan o gynllun ehangach i gael dynodiad o fath ar gyfer Ynys Môn a Phenrhyn Llŷn yn ogystal â Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.  A'r syniad yw y bydd y tair ardal yn gwneud cais unigol am statws Awyr Dywyll dros y ddwy flynedd nesaf, - gyda chymorth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sydd eisoes wedi ei dynodi’n ‘Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol’. 

Er mwyn sicrhau fod y tair ardal yn cyflwyno ceisiadau o safon, sy’n addas ar gyfer y rhan yma o’r wlad, ac i ddatgymalu holl gymhlethdodau'r broses, fe benodwyd Swyddog Awyr Dywyll ar gontract dwy flynedd. Merch ifanc o’r enw Dani Robertson yw’r Swyddog, a hi wnaeth siarad gyda’r Gweithgor yn ddiweddar.  

Yn ogystal â gweithio ar y gwahanol ffyrdd y gellir lleihau llygredd golau (gan gynnwys cael Awdurdodau Lleol i wneud newidiadau eithaf radical ynglŷn â goleuadau stryd), mae Dani a’n tîm AHNE wedi cynllunio rhaglen wych o ddigwyddiadau Awyr Dywyll drwy gydol y flwyddyn.  Rhestrir y rhain i gyd yn ‘O Gwmpas’ sydd ar gael yn Loggerheads a llawer o leoedd eraill. Ewch i gael copi – mae’n llawn o weithgareddau i’ch codi o’ch cadair freichiau!

Ac yn olaf, dyma ddigwyddiad all apelio atoch – Dydd Llun 12 Awst 9yh tan 11yh – Canolfan Hamdden Corwen – “Gwibfeini yn y Nos” – Dewch i Fryngaer Oes yr Haearn, Caer Drewyn, i fwynhau ein hawyr dywyll a’r sêr gwib. Dewch a thortsh, planced a diod poeth. I archebu, ffoniwch 01824 712757. Mae’n dipyn o daith i fyny Caer Drewyn, ond dylai fod yn hwyl er gwaethaf hynny!

Mike Skuse

GEOAMRYWIAETH AR WAITH YN NYFFRYN ALYN

Rywdro tua diwedd y flwyddyn, daeth llyncdwll mawr newydd yng ngwely afon Alyn ger Ceunant enwog y Cythraul, milltir neu ddwy i lawr yr afon o Loggerheads. Oherwydd hydoddedd y galchfaen waelodol, gwelir yn aml nodweddion naturiol fel pafin, ogofeydd a llyncdyllau calchfaen mewn tirwedd o’r fath. Ni ellir gweld llawer o’r nodweddion hyn, ond daw llyncdyllau i’r golwg yn aml. Rydym yn arfer gweld gwely’r afon yn sych yn ystod misoedd yr Haf ger Loggerheads, ond roedd yn annisgwyl iawn i’w weld yn sych uwchben Rhyd-y-mwyn ynghanol mis Ionawr! Fe gododd staff yr AHNE rwystrau’n sydyn ger y llyncdwll rhag ofn i unrhyw un fynd i drafferth yn anfwriadol. Bydd y sefyllfa’n cael ei hadolygu’n barhaus, ond mae hyn yn rhybudd amserol fod ein hamgylchedd yn newid yn gyson, - weithiau’n anweladwy ac weithiau’n ddramatig, fel y dengys yn glir yn y lluniau yma gan John Bowen o’r Cyfeillion.

I BEN Y GOP AC YN ÔL GYDA FIONA 

Ar ddydd Sadwrn, 16 Chwefror 2019, aeth Joyce a minnau gyda chriw o bobl oedd yn cynnwys aelodau o Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys (YACP) ac aelodau o Gyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (CBCDD). Cawsom ein diddanu gyda sgwrs-gerdded ddiddorol arall gan Fiona Gale. Fel mae llawer yn gwybod, Fiona oedd Archeolegydd Cyngor Sir Ddinbych cyn iddi ymddeol y llynedd.  

Y man cyfarfod oedd maes parcio pentref Trelawnyd am 1.30 yp. Oddi yno, roedd angen cerdded ychydig i fyny’r bryn at y man lle mae Llwybr Pererinion Gogledd Cymru’n gadael ffordd Trelawnydd-Llanasa. Rhaid i mi gyfaddef ar hyn o bryd bod Joyce a minnau wedi twyllo; roeddem yn gwybod am gilfan fechan ar ben y bryn, ac yno wnaethom ni ymuno a’r criw. Tydi Joyce ddim yn un da am gerdded i fyny elltydd, ac roedd ganddi ofn arafu’r grŵp. Yna fe wnaethom gerdded ar draws cae ac ar hyd llwybr caniataol drwy Goedwig Bryn Gop. Tra roeddem yn y goedwig, tynnodd Fiona ein sylw at lawer o weithfeydd bychan lle'r oedd yn amlwg fod rhywun wedi bod yn cloddio am gerrig, - efallai ar gyfer walio’r caeau ond efallai hefyd ar gyfer adeiladu Carnedd Bryn Gop. Eglurodd Fiona fod y twmpath Neolithig wedi'i adeiladu o greigiau calchfaen. 

Ar ôl cyrraedd y copa, eglurodd Fiona nad oedd gwaith cloddio ar y twmpath wedi datgelu unrhyw gladdedigaethau na siambr fewnol. Felly ai safle crefyddol, twmpath i gofio rhyw arweinydd llwyth, neu rywbeth arall oedd yma? Toes neb yn siŵr.  

Y gred yn lleol yw mai cofeb i Buddug, y Frenhines Geltaidd sydd yma. Hi wnaeth greu tipyn o stŵr i’r Rhufeiniaid yn ystod y ganrif gyntaf. Fel rhywun sydd am gredu fod y Brenin Arthur yn hanu o’r un ardal dair neu bedair canrif yn ddiweddarach, roeddwn i’n gobeithio cael prwf pendant o hyn. Ond, yn gwrtais ac yn rhesymegol, dywedodd Fiona mai posibilrwydd gwan iawn oedd hynny. (Ond wnaeth hi ddim ei ddiystyru’n llwyr, felly pwy a ŵyr????) 

Yna aethom i lawr y bryn at geg Ogof Gop yn wyneb y llethr calchfaen. Dywedodd Fiona wrthym am y cloddio fu yn yr ogof tua diwedd y 19eg Ganrif. Cafodd gweddillion dynol o’r Cyfnod Neolithig eu darganfod yno, - sef diwedd Oes y Cerrig, 4,000 i 2,500 CC. Fe wnaeth ci a phlentyn oedd gyda ni ymgais i archwilio’r ogof ymhellach, ond ni wnaethant fawr o gynnydd. 

Yna i lawr a ni ar hyd y caeau i’r maes parcio. Unwaith eto, roedd Fiona wedi’n haddysgu ac wedi’n diddori gan roi’r union faint o fanylion oedd eu hangen.  Mawr ddiolch iddi hi. 

Dyma’r drydedd o dair alldaith gyda Fiona yn arwain a Penny Foreman o Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys (YACP) yn ei threfnu. Roedd y lleill i gyn-weithfeydd llechi Nant y Pandy a Bryngaer Oes yr Haearn Caer Drewyn. 

Fel Ysgrifennydd Digwyddiadau Cyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, roeddwn yn falch iawn fy mod wedi gallu estyn gwahoddiad i’n haelodau i ymuno ag Aelodau YACP ar yr achlysur hwn.  

Nev.

 

Y GWEILCH YN DYCHWELYD I LYN BRENIG 

Bu’n rhaid aros 400 mlynedd i weilch magu ddychwelyd i Gymru, ac erbyn hyn mae gennym bâr yn nythu ar lwyfan gwneud yn Llyn Brenig, - sef ardal sy’n gyfagos iawn i Ardal o Harddwch Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Fe wnaeth y pâr, sef yr iâr - Blue 24 (10) - a’i phartner o’r Alban - Blue HR7 (14) – nythu yn Brenig am y tro cyntaf yn 2018 gan lwyddo i fagu un cyw - BlueZ9 (18) - gafodd ei galw’n Luned, yn dilyn pleidlais gyhoeddus.

Llawenydd mawr i wylwyr gweilch profiadol oedd i’r pâr ddychwelyd yn ddiogel i’w nyth ym mis Ebrill eleni ar ôl taith dros 3000 o filltiroedd o Affrica. 

Mae hanes iâr Llyn Brenig yn ddiddorol dros ben. Ganwyd hi yn Rutland yn 2010, a threuliodd flynyddoedd lawer yn ymweld â nythod llwyddiannus yng Ngorllewin Cymru yn chwilio am gymar. Ond parhau’n ddigymar wnaeth hi, gan iddi fethu cael hyd i bartner addas neu iddi gael ei hel i ffwrdd gan adar oedd yno’n barod.  

Roedd gwylwyr gweilch ymhell ac agos wrth eu bodd pan gafodd hi gartref a chymar o’r diwedd yn Llyn Brenig y llynedd. Fe wnaeth HR7 ddeor yn 2014 yn Llyn Menteith, Stirling. Yn Brenig mae un o’r pedair nyth lle mae’r gweilch wedi dychwelyd i fridio eleni a wyddom amdanynt yng Ngogledd a Gogledd Orllewin Cymru.  

Dros fisoedd y Gaeaf, gan ddisgwyl iddynt ddychwelyd, bu Dŵr Cymru/Welsh Water yn brysur yn adeiladu cuddfan adar newydd fydd yn olygfan berffaith i ffotograffwyr dynnu lluniau o’r adar ohoni. Codir tâl o £55 y person am ddwy awr a gellir archebu drwy ffonio Llyn Brenig ar 01490 420463. 

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, y mae eu Gwarchodfa Natur Gors Maen Llwyd yn agos at y safle, hefyd wedi lansio apêl codi £15,000 o arian i helpu gyda’r prosiect cadwraeth cyffrous hwn. Unwaith eto, bydd aelodau’r ymddiriedolaeth mewn mannau ffafriol ar lan y llyn gyda’u trelar arbennig a’u telesgopau, a byddent yn barod i siarad gydag ymwelwyr am y gweilch.

DIGWYDDIADAU AR GYFER Y DYFODOL

Mae gan y Cyfeillion raglen amrywiol o ddigwyddiadau dros y misoedd nesaf. Os am restr lawn,  cliciwch yma.

Digwyddiadau yn ystod y misoedd nesaf:

Abaty Vale Crucis a Cholofn Eliseg gyda Fiona Gale

Mai 12 @ 10.30 – 1.00 yp.

O Lanferres dros Fryn Alyn gyda Neil Ogilvie

Mai 24 @ 10.00 – 1.00 yp.

Taith gyda Jeff o amgylch Llangollen ac i Gastell Dinas Bran

Mehefin 7 @ 10.00 – 1.30 yp.

Gerddi Plas Newydd, Llangollen gyda Neil Rowlands

Mehefin 12 @ 10.00 – 12.30 yp.

Taith o Drelawnyd gyda Ron (Rhif 3 o Lyfr Teithiau Ron)

Mehefin 20 @ 10.00 – 1.30 yp.

Ail-ymweld â H&D Fitzgerald, Metrologyddion Dwysedd o'r Radd Flaenaf

Gorffennaf 6 @ 2.00 – 5.00 yh.

Manylion pellach ar gael ar www.friends.cymru/events

Gobeithio medrwch chi ymuno â ni

# Os oes gennych chi unrhyw luniau trawiadol o Fryniau Clwyd neu Ddyffryn Dyfrdwy y byddech yn fodlon i’r Cyfeillion eu defnyddio mewn rhifynnau i ddod o’r Cylchlythyr, anfonwch hwy i Helen yn talwrnglas1@gmail.com

Rhif elusen gofrestredig 1163812

www.friends.cymru

Hoffai’r Cyfeillion ddiolch i Gronfa Datblygu Cynaliadwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy am eu cefnogaeth. 

 

Manylion cysylltu:
hello@friends.cymru
C/o Loggerheads Country Park, Loggerheads CH7 5LH
Want to change how you receive these emails?
You can update your preferences or unsubscribe from this list
UNSUBSCRIBE  WILL REMOVE YOU FROM BOTH THE WELSH AND ENGLISH DISTRIBUTION LIST






This email was sent to <<Email Address>>
why did I get this?    unsubscribe from this list    update subscription preferences
Friends of the Clwydian Range and Dee Valley · Loggerheads Country Park · Loggerheads · Ruthin, Den CH7 5LH · United Kingdom

Email Marketing Powered by Mailchimp