Copy
Bwletin Ffarm Moelyci Hydref 2016
I weld yr e-bost hwn mewn porwr gwe, cliciwch yma
 Bwletin Ffarm Moelyci Hydref 2016
Panad a Sgwrs

Dydd Sadwrn Cyntaf Bob Mis. Dydd Sadwrn 1 Tachwedd. 11:00am
Ydych chi'n dysgu Cymraeg ac yn dymuno defnyddio eich Cymraed yn amlach?

Cwis Tafarn
 
Bydd y Cwis Tafarn nesaf yn y Douglas yn digwydd ar DRYDEDD nos Fawrth mis Tachwedd. Dewch draw i ymuno yn yr hwyl nos Fawrth 15 Tachwedd yn dechrau am 7.30pm.
Mae wedi bod yn fis prysur ar y fferm, rhwng noson gyri, gŵyl afalau, ymrwymiad cymunedol a helfa ffwng. Yn ystod y mis rydym wedi bod yn trafod sut mae mynd ati i amaethu tir Moelyci a pharchu'r amgylchedd a'i bioamrywiaeth gyfoethog  ar yr un pryd.
 
Yn ystod y mis nesaf byddwn yn cynnal rhagor o nosweithiau bwyd a chyrsiau, ond bydd gofyn ichi gadw lle yn fuan gan eu bod nhw'n boblogaidd iawn. Cadwch lygaid ar ein gwefan, y cylchlythyr a'r cyfryngau cymdeithasol.
Cyrsiau ym Moelyci
 
Er ei bod hi'n oeri dyma'r adeg ddelfrydol i gael trefn ar yr ardd lysiau. Oes angen cymorth arnoch chi? Mae Coryn Bye yn cynnig cyrsiau unwaith y mis ar wahanol agweddau ar dyfu eich llysiau eich hun. Dysgwch am gylchdroi cnydau neu gael hadau a phlanhigion yn barod ar gyfer y flwyddyn newydd. Bydd hefyd yn eich helpu i gynllunio'ch rhandir ac adnabod y planhigion gorau i'w tyfu yn yr ardal hon.
Noson Gyri
 
Nos Wener 21 Hydref cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Clwb Swper Moelyci, ac roedd y lle yn llawn dop! Roedd Elen wedi paratoi cyri at ddant pawb: korma mwyn, tikka a balti poeth, seigiau llysieuol a rhai cig hefyd. Roedd platiau'n orlawn gyda bajis, samosas a bara naan yn goron ar y cwbl. Cafodd pawb gyfle i flasu'r holl seigiau ac roedd ambell i wyneb coch ymysg y rhai sydd ychydig yn sensitif i sbeis! Ar ddiwedd y wledd cafwyd cystadleuaeth frwd am y siocledi mint ar ddiwedd y pryd.
 
Roedd yr awyrgylch yn gyfeillgar a braf ac yn ogystal â nifer o wynebau cyfarwydd roedd wynebau newydd i'w gweld yn blasu cynnyrch y gegin am y tro cyntaf. Roedd staff Ffarm Moelyci yno hefyd i ymuno yn yr hwyl.
 
Arbrawf oedd y cyfarfod hwn o'r clwb swper. Yn dilyn llwyddiant y noson bydd nosweithiau tebyg cyn bo hir yn cynnig amrywiaeth o flasau a themâu. Cadwch lygad ar y wefan a facebook - bydd angen cadw lle yn fuan!
 
Rydym yn edrych ymlaen at y nesaf!
 
Y Grŵp Bywyd Gwyllt
 
Mae'r Grŵp Bywyd Gwyllt yn awyddus iawn i weld amaethu'n ailgychwyn ym Moelyci, sy'n beth da ynddo'i hun, ond hefyd yn hanfodol ar gyfer rheoli tir pori'r fferm mewn dull mwy sympathetig. Rheolaeth sympathetig yw'r elfen bwysicaf wrth inni geisio adfer cynefinoedd y fferm a sefydlu gwydnwch amgylcheddol. Cymerwyd y camau cyntaf ddydd Iau diwethaf gyda chyfarfod cyntaf y Grŵp Gorchwyl a Gorffen lle'r oedd rhai o aelodau’r Grŵp Bywyd Gwyllt hefyd yn bresennol. Roedd Glyn Jones, sy'n pori ei ddefaid ar y mynydd, yn ddigon caredig i gynnig ysgrifennu cynllun ffermio sylfaenol. Bydd hwn yn cynnig man cychwyn defnyddiol iawn ar gyfer trafodaethau gyda rhanddeiliad ac ymgynghorwyr.
Blas Lôn Las
 
Rydym wedi cael mis prysur gyda nifer o'n cynhyrchwyr yn paratoi danteithion newydd blasus i'r siop a'r caffi. Rydym yn awr yn cynnig pizza, chilli llysiau, a phastai'r bwthyn ochor yn ochor â'n byr brydau o gawl, pasteiod a chacennau godidog. Llawer o ddiolch i Becws Brain, Pantri Helen a Gethin Sherrington am eu cydweithrediad a'u parodrwydd i greu cynnyrch godidog ar ein cyfer.
 
Mae'n hawdd bellach adnabod gweithwyr y siop diolch i Grefftau Howgets am greu ffedogau smart i ni.
 
Cafwyd diwrnod addysgiadol, llawn hwyl gyda llond gwlad o ddanteithion blasus yn ein Gŵyl Afalau gyda Ian Sturrock yn ddiweddar. Diolch i holl aelodau staff a gwirfoddolwyr Moelyci am eu gwaith caled yn trefnu a rhedeg y diwrnod, ac i chithau a ddaeth i'n cefnogi. Dw i'n siŵr fod yr hen blantos wedi llwyr ymladd ar ddiwedd y diwrnod ar ôl iddynt fod mor brysur yn creu sudd afalau gan ddefnyddio'r pres llaw traddodiadol!  Braf oedd gweld cymaint ohonoch wedi dod ag afalau i'w hadnabod, i'w troi'n sudd ac i drafod y coed cynhenid mae Ian yn eu meithrin. Mae gan yr  holl goed traddodiadol y mae Ian yn eu cynnig a'u meithrin enwau ffantastig, ac mae'n siŵr mai un o'r rhai mwyaf adnabyddus yw coeden Ynys Enlli. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys: Afal Nant Gwrtheyrn, Cox Cymreig, Gwell na Mil, Afal Deimwnt sy'n afalau bwyta yn ogystal ag afal Russet Croen Mochyn. Os am afal coginio beth am Big y Golomen, Trwyn Mochyn neu Din yr Ŵydd!!
Mis Hydref yn y rhandiroedd
 
Mae cefnogi bywyd gwyllt yn esgus da i beidio â bod yn rhy daclus yn yr ardd neu ar y rhandir ar hyn o bryd. Os byddwch yn gadael y borderi fel ag y maent tan ddiwedd y gaeaf byddwch yn cynnig cysgod ar gyfer pryfed ac adar mewn cyfnodau mwyn.
 
Mae popeth ar y rhandiroedd yn Moelyci'n wlyb, yn gwegian, yn troi'n frown, yn pydru neu'n gwydnu. Dydi hadau'r ffa dringo bellach ddim yn addas i'w bwyta ond yn hytrach i'w cadw i'w plannu yn y gwanwyn. Mae'r courgettes wedi troi'n faros, gyda chroen gwydn fel rhinoseros, a'r pwmpenni hefyd yn gwydnu'n barod i'w cadw ar gyfer 2017. Fodd bynnag, er bod llawer o'r llysiau sydd yn dal yn y tir yn gwydnu, yn rhydu ac yn heneiddio, mae ystod eang o flodau hwyr yn ffynnu ac yn wledd o liw.
 
Maent yn amrywio o hocys porffor tywyll, rhosod dringo ysgarlad a fydd yn mynd ymlaen tan fis Rhagfyr, gwyddfid, cosmos a blodau glas hyfryd tafod yr ych. Mae lliw oren trawiadol y rhuddos yn debyg i oleuadau neon, a'r capan cornicyll yn lledaenu ar hyd y tir yng ngholau'r haul isel. Yn y gerddi perlysiau, mae lafant yn dal i flodeuo, felly hefyd y balsa, llygad y dydd, y wermod wen, mintys y graig a'r camameil. Mae clystyrau o falm lemon yn dal i ddenu dwsinau o wenyn i fwydo ar eu blodau mân.
 
Mae blodau'r haul wedi dod i ben bellach ac yn edrych yn simsan iawn ar eu coesau anferth. Peidiwch â'u torri eto gan fod yr hadau'n denu adar a phryfed er bod y planhigyn yn pydru. Mae'r robin goch wedi rhoi'r gorau i ddadlau dros dir ac mae chwynnu a phalu'r rhandiroedd yn y cyfnod yma wastad yn denu o leiaf un ymwelydd brongoch sy'n chwilio am bryd o fwyd.
Grŵp Coetiroedd a Chadwraeth
 
Mae cyfnod codi Jac y Neidiwr bellach wedi dod i ben. Rydym wedi llwyddo i glirio'r tir yn agos i ble mae'r nant yn ymuno â thir Moelyci ac yn gobeithio gallu ehangu hwn y flwyddyn nesaf. Rydym wedi ail-agor y giât i'r safle archeolegol (Rhif 7) a'r grisiau sy'n arwain at y llwybr cyhoeddus sy'n mynd i Bentir. Rydym hefyd wedi agor llwybr newydd dros fryn y deial haul. Gyda golygfeydd trawiadol dros y Fenai ac Ynys Môn rydym yn credu y bydd hwn yn lle da i osod mainc. Rydym wedi nodi rhai achosion o wywiad yr onnen ar y fferm. Er na ellir ei atal, er mwyn ei arafu, rydym wedi torri a llosgi'r coed ifanc sydd wedi'u heffeithio a rhoi gwybod i Ymchwil Coedwigaeth trwy rybudd coed (mae ap ar gael i unrhyw un ei defnyddio). Bydd unrhyw achosion aeddfed yn cael eu gadael fel pren marw i greu cynefinoedd a'u reoli er mwyn diogelwch. Rydym hefyd wedi gweld mwy o ddifrod wiwerod ar y coed llydanddail ifanc. Ar nodyn mwy cadarnhaol, aeth dau aelod o'r grŵp i'r Ffair Goed (1 Hydref) yng ngerddi botanegol Treborth i gynnal arddangosiadau gwaith coed. Er gwaethaf y glaw trwm daeth dros 300 o bobl i'r digwyddiad a chawsom ddiwrnod llwyddiannus iawn. Bu un aelod o'r grŵp yn cynrychioli Ffarm Moelyci a Llais y Goedwig (Coetiroedd Cymunedol Cymru) yng nghynulliad Coetiroedd Cymunedol yr Alban (CWA) yn Forres. Roedd hwn yn ddigwyddiad addysgol ac ysbrydoledig gyda llawer o drafodaeth am sut y gall cymunedau fod yn berchen ar goetiroedd a 'dysgu ac ennill' oddi wrthynt. Yng nghanol mis Hydref daeth myfyrwyr coedwigaeth, cadwraeth a daearyddiaeth o Brifysgol Bangor i Foelyci i ymweld â'r 30 erw o goetir a mynychu sesiwn arddangos / blasu gwaith coed gwyrdd. Fel bob amser, mae croeso i unrhyw un ymuno â'n dyddiau gwirfoddoli ar ddydd Mercher a dydd Sul rhwng 10:00am a 4:00pm.
Safle Biomas
 
Efallai eich bod chi wedi clywed y term biomas yn cael ei grybwyll wrth sôn am yr hen safle compost. Mae Cwm Harry yn rhan o grŵp Traws-ewropeaidd o'r enw Ailgyfeirio, grŵp o 4 gwlad a 18+ o bartneriaid. Mae Ailgyfeirio newydd gael ei ariannu drwy raglen INTERREG ar gyfer gogledd orllewin Ewrop i ddefnyddio biomas ymylol i greu cynnyrch. Beth yw ystyr hynny? Mae biomas ymylol yn golygu planhigion sydd heb unrhyw werth maethol ac yn cael eu hystyried yn blanhigion ymledol neu niweidiol. Yn ein hachos ni mae gennym ddiddordeb mewn planhigion sy'n lledaenu dros y borfa pan na chaiff ei rheoli, er enghraifft brwyn, rhedyn ac eithin. Mae'r broses Ailgyfeirio yn cymryd y deunydd hwn, yn gwasgu'r sudd ohono ac yn gwneud cynhyrchion terfynol fel nwy, brics glo tanwydd ac amrywiaeth o ddeunyddiau megis sglodion pren, compostau a golosg byw. Mae Ailgyfeirio eisiau gwneud hyn ar ddwy raddfa; ar raddfa ddinesig (yn Baden-Baden, yn yr Almaen) ac ar raddfa fferm. Mae gweithio ar ffermydd yn gallu caniatáu i ffermwyr adfywio ac adfer tir a darparu ffynonellau incwm newydd. Hwb posibl i economïau gwledig.
 
Beth mae hyn yn ei olygu i Ffarm Moelyci? Ar y safle Biomas rydym yn awyddus i ddangos rhan o'r broses ar raddfa fferm. Fel llawer o ffermydd yng Nghymru, mae llawer o fiomas ar gael ac rydym yn awyddus i wella porfa'r fferm ar yr un pryd. Gallwn ddangos pob cam ar y fferm a darparu ffynonellau incwm newydd a thir pori gwell. Gan mai fferm yw hon rydym yn ceisio gweithredu mewn modd sy'n cael cyn lleied o effaith ag y bo modd. Pan fyddwn yn cynaeafu, rydym yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n cynnal y borfa a'r manteision amgylcheddol. Rydym hefyd yn creu trefn sy'n addas ar gyfer ffermydd yr ydym yn cyd-fyw â nhw.
 
Os hoffech gael gwybod mwy am Ailgyfeirio, cysylltwch â davee@cwmharry.org.uk
Ffarm Moelyci Twitter
Ffarm Moelyci Facebook
Gwefan Ffarm Moelyci
Ebost
Copyright © 2016 Ffarm Moelyci, All rights reserved.


Want to change how you receive these emails?
You can update your preferences or unsubscribe from this list